Farmers' Union of Wales News

04 Jan 2024

UAC yn cynnal sioe deithiol Cynllun Ffermio Cynaliadwy i aelodau / FUW hosts Sustainable Farming Scheme roadshow for members

UAC yn cynnal sioe deithiol Cynllun Ffermio Cynaliadwy i aelodau / FUW hosts Sustainable Farming Scheme roadshow for members: tablet stock image

01         For Immediate Release  04 January 2024

This is a bilingual release. The English follows the Welsh.

Mewn ymgais i ymgysylltu ffermwyr Cymru â chynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal sioe deithiol wybodaeth i aelodau.

FUW president Ian Rickman Plaid Cymru conf

Lansiodd Llywodraeth Cymru'r ymgynghoriad allweddol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Rhagfyr 2023 - y modd bydd ffermwyr yng Nghymru’n derbyn cymorth fferm o 2025 ymlaen.

Wrth siarad am yr ymgynghoriad, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman:

“Rydym wedi ymgynghori dro ar ôl tro gyda’n haelodau ar sawl fersiwn o’r cynllun hwn ers 2018 ac rydym bellach ar y cam mwyaf allweddol o’i ddatblygiad. Rwy’n annog ein haelodau i wneud pob ymdrech i ymuno â digwyddiad gwybodaeth yn eu sir a chymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio ymateb yr Undeb i’r cynigion.”

Ychwanegodd Mr Rickman, er bod yr Undeb wedi bod yn llwyddiannus yn lobïo am rai newidiadau hanfodol i'r cynllun ers ei sefydlu, gan gynnwys darparu taliad sylfaenol, mae nifer o rwystrau a chwestiynau sylweddol yn parhau ynghylch rhai manylion.

Mewn ymateb i ymgynghoriad cychwynnol Brexit a’n Tir, roedd UAC yn dadlau bod yn rhaid i unrhyw gynllun talu yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus hefyd ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi Cymru a sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy ac yn werth chweil. Byddai methu â gwneud hynny yn debygol o arwain at niwed difrifol i ffermydd teuluol Cymru a’r rôl y maent yn ei chwarae yn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.

“Mae’r blaenoriaethau polisi hyn yn parhau i fod yn sail i’n gofynion allweddol mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – rhaid i’r cynllun hwn fod yn ymarferol i holl ffermwyr Cymru a chyflawni ein cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol,” meddai Llywydd yr Undeb.

Mae digwyddiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal ar y dyddiadau a’r lleoliadau canlynol:

Llun, 22 Ionawr, 7.30yh - Caernarfon, (lleoliad i’w gadarnhau)

Mawrth, 23 Ionawr, 7.30yh - Ceredigion, Clwb Rygbi Aberaeron

Mercher, 24 Ionawr, 7.30yh - Dinbych & Fflint, Canolfan Genus, Rhuthun

Iau, 25 Ionawr, 7.30yh - Caerfyrddin, Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin

Iau 25 Ionawr, 12yp - Sir Benfro, Neuadd Goffa Treglarbes, Treglarbes

Iau, 25 Ionawr, 7.00yp - Morgannwg, Clwb Golff Grove Ltd, Porthcawl, Morgannwg Ganol

Llun 29 Ionawr, 7yh - Brycheiniog a Maesyfed, Pafiliwn UAC, Maes y Sioe Frenhinol Llanelwedd, Llanfair ym Muallt

Mawrth 30 Ionawr, 7.30yh - Ynys Môn, Canolfan CFfI, Cae Sioe Môn  

Iau 1 Chwefror, 7yh - Gwent, Marchnad Da Byw Sir Fynwy,  Ffordd y Fenni, Rhaglan

Iau, 1 Chwefror, 10.00yb - Meirionnydd, Fferm Sylfaen, Bermo, Gwynedd

Mawrth 6 Chwefror, 7.30yh - Sir Drefaldwyn, Marchnad Da Byw Y Trallwng

###

In a bid to engage farmers in Wales with the final proposals of the Sustainable Farming Scheme, the Farmers’ Union of Wales is hosting an information roadshow for members.

Ian Rickman (1)

The Welsh Government launched the pivotal consultation on the future of the Sustainable Farming Scheme in December 2023 and it is the mechanism through which farmers will receive support in Wales from 2025 onwards.

Speaking about the consultation FUW President Ian Rickman said:

“We have repeatedly consulted with our members on several versions of this scheme since 2018 and are now at the most critical stage of its development. I encourage our members to make every effort to join an information event in their county and actively participate in formulating the Union’s response to the proposals.”

Mr Rickman added that while the Union has been successful in lobbying for certain crucial changes to the scheme since its inception, including the provision of a baseline payment, a number of significant barriers and questions around certain details remain.

In response to the initial Brexit and Our Land Consultation, the FUW maintained that any future payment scheme based on environmental and public goods outcomes must also protect family farms, support rural communities and Welsh Jobs and ensure that agriculture is both sustainable and rewarding. To fail to do so would most likely lead to serious damage to Wales’ family farms and the role they play in Wales’ economy, society, culture and landscape.

“These policy priorities continue to underpin our key asks in relation to the Sustainable Farming Scheme - this scheme must be practical for all farmers in Wales and deliver on our economic, environmental and social sustainability,” said the Union President.

Information events are being held at the following dates and locations:

Monday, 22 January, 7.30pm - Caernarfon (location TBC)

Tuesday, 23 January, 7.30pm - Ceredigion, Clwb Rygbi Aberaeron

Wednesday, 24 January, 7.30pm - Dinbych & Fflint, Canolfan Genus, Ruthin

Thursday, 25 January, 7.30pm - Carmarthen, Rugby Athletic Club Carmarthen

Thursday 25 January, 12noon - Pembrokeshire, Clarbeston Road Memorial Hall, Clarbeston Road

Thursday, 25 January, 7.00pm - Glamorgan, Grove Golf Club Ltd, Porthcawl, Mid Glamorgan

Monday 29 January, 7pm - Brecon and Radnor, FUW Pavilion, RWAS Showground, Llanelwedd, Builth Wells

Tuesday 30 January, 7.30pm - Ynys Mon, Canolfan CFfI, Cae Sioe Mon 

Thursday 1 February, 7pm - Gwent, Monmouthshire Livestock Market, Abergavenny Road, Raglan

Thursday, 1 February, 10.00am - Meirionnydd, Fferm Sylfaen, Bermo, Gwynedd

Tuesday 6 February, 7.30pm - Montgomeryshire, Welshpool Livestock Market

Contact Information

Anne Dunn
Head of Communication
FUW Ltd. Group
07706 333880
anne.dunn@fuw.org.uk